So we had a great opening in Second Life on Saturday, with new friends made in the bar, frivolous liaisons on the balloon ride, heated art discussions in the gallery and mixed-species (human-penguin to be precise) dancing on the dance floor.
Photos coming soon PICTURES
For anyone who couldn’t make it, the exhibition continues, definitely worth a visit. See SECOND LIFE.
Nos Sadwrn yma, o 6-9 yr hwyr, mae arddangosfa o waith celf y Llyfr Comics yn agor yn rhithfyd Second Life. Dyma’r arddangosfa gyntaf erioed o Gymru i gael ei lansio yn Second Life, ac mae’n dod gyda pherfformiad byw gan y DJ Brian Nylon a reid balŵn drwy’r llyfr ei hun.
Peidiwch â bod yn swil os nad ydach chi wedi mentro i rithfyd amgen Second Life o’r blaen. Mae o i gyd am ddim ac yn ddigon hawdd ei ddeall. I gael mwy o fanylion, cymrwch olwg ar adran Second Life y wefan yma.
Mae 200 copi o’r Llyfr Comics ar eu ffordd i’r Pafiliwn Rhyngwladol yn Llangollen. Mae modd eu prynu nhw’n uniongyrchol o’r Pafiliwn am £20, neu os dowch chi i’r ŵyl ar y 29ain fe gewch chi brynu eich copi personol eich hun am bris gostyngol o £15!
Dydd Mercher, Medi 12th, 2007 | Book | No Comments »