Second Life

Ein harddangosfa Llyfr Comics yn Second Life!

Sadwrn 15fed o Fedi, 2007, o 6-9 yr hwyr (amser Cymru)

Yr arddangosfa gelf gyntaf o Gymru i’w chynnal yn rhithfyd Second Life. Cwmni Movix Media’n trefnu. Mae gwahoddiad i bawb i’r parti lansio!

Mae’r Arddangosfa’n parhau o Medi 16 – Tachwedd 13 2007

Os ydach chi’n gyfarwydd â Second Life, dyma le i fynd:

http://slurl.com/secondlife/Movix%20Media/93/97/120

Os nad ydach chi’n gyfarwydd â Second Life, bydd angen i chi wneud ychydig o baratoi o flaen llaw ar gyfer dydd Sadwrn. Dyma ddylech chi ei wneud (mae o’n cymryd ychydig bach o amser y tro cynta’, felly dwi’n argymell eich bod chi’n newid i’ch slipars ac yn gwneud paned bach o de):

Beth ydi Second Life?

Mae Second Life yn rithfyd 3D wedi ei adeiladu gan, ac ym mherchnogaeth lwyr ei drigolion. Mae yno bobl, adeiladau, môr a thir, adloniant ac arian yn union fel yn y byd go iawn. Does dim angen talu i ymuno neu dreulio amser yno. I gyrraedd a byw yno mae angen cyfrifiadur sydd wedi ei gysylltu â’r rhyngrwyd, mae angen i chi greu cymeriad i chi’ch hun (‘rhith-gymeriad’ fel petai) ac yna rheoli ei fywyd yn y rhithfyd. Mae modd symud o gwmpas, siarad gyda phobl, gweld pethau, gwneud pethau ac mae hyd yn oed modd prynu pethau sydd wedi eu creu gan drigolion eraill(cardigan newydd er enghraifft) os ydach chi isio. Ers agor i’r cyhoedd yn 2003, mae twf Second Life wedi bod yn aruthrol ac erbyn heddiw mae yna gyfanswm o 9,448,709 o drigolion o ar draws y byd yn byw yno.

Sut mae cyrraedd y lle:

1. Ewch i www.secondlife.com

2. Cliciwch ar gornel dde ucha’r dudalen lle mae o’n dweud ‘Ymuno / Join’

3. Lle mae o’n dweud ‘Ymuno â chymuned / Join a community’, cliciwch ar y linc ar ddiwedd y paragraff sy’n dweud ‘ewch â mi i Ynys Cyfarwyddo / just take me to Orientation Island’.

4. Cofrestru ar gyfer Second Life: Dewisiwch enw cyntaf ar gyfer eich cyfrif, ac yna cyfenw o’r rhestr ddisgynnol. Cliciwch ar y linc yn y gwaelod i weld ydi’ch enw ar gael.

5. Wedi i chi gael eich enw Second Life, llenwch weddill y ffurflen.

6. Ar y dudalen nesaf, dewiswch olwg eich rhith-berson. Mae’n ddigon hawdd ei newid o’n nes ymlaen. Fe allwch chi ddewis bod yn ddyn, yn ddynes neu hyd yn oed yn anifail. Ond unwaith y byddwch chi wedi dewis rhyw eich rhith-berson, mae hwnnw’n aros.

7. Ewch i’r dudalen nesaf a llenwch y ffurflen. Peidiwch â phoeni am yr adran sy’n son am bwy wnaeth eich cyfeirio chi at Second Life. Gwnewch nodyn o’ch cyfrinair.

8. Mae’r dudalen nesaf yn gofyn os ydach chi isio Cyfrif Premiwm - anwybyddwch y cam yma.

9. Byddwch chi rŵan yn derbyn linc yn eich e-bost ar gyfer actifadu eich cyfrif. Cliciwch arno pan mae o’n cyrraedd. Fe ddaw yna gwestiwn yn gofyn i chi os ydach chi isio lawrlwytho meddalwedd Second Life. Cliciwch ‘ydw / yes’.

10. Mae yna 33 megabeit o feddalwedd ac mi fydd o’n cymryd rhai munudau i lawrlwytho drwy gysylltiad band eang. Mae’r meddalwedd yn sefydlu ei hun ar eich cyfrifiadur ac yn gosod eicon ar eich bwrdd gwaith. Hwn fyddwch chi’n ei ddefnyddio i gychwyn Second Life.

11. Cychwynnwch y meddalwedd pan fydd o wedi ei sefydlu, yna bwydwch eich enw a’ch cyfrinair i mewn iddo er mwyn mewngofnodi.

12. Pan fyddwch chi’n defnyddio Second Life am y tro cyntaf, mi fyddwch chi’n cael eich arwain i ‘Ynys Cyfarwyddo / Orientation Island’. Yno mi fyddwch chi’n cael eich arwain drwy ychydig o gamau syml fydd yn dangos i chi sut i lywio’ch ffordd o gwmpas Second Life. Mae’n werth gwario ychydig o amser fan hyn, gan mai dim ond yr un cyfle yma fyddwch chi’n ei gael i ddod yma.

Sut mae cyrraedd yr Oriel:

1. Cliciwch ar y botwm ‘Chwilio / Search’ glas yng ngwaelod y sgrin.

2. Teipiwch ‘Oriel y Llyfr Comics / Comic Book Gallery’ i’r blwch ar y top chwith lle mae ‘Darganfod / Find’.

3. Sgrialwch i lawr drwy’r canlyniadau nes eich bod chi’n gweld eicon o dŷ bach glas yn ymyl Oriel y Llyfr Comics / Comic Book Gallery.

4. Cliciwch ar yr enw, yna ar y botwm Telegludo / Teleport glas.

5. Mi ddaw hynny â chi i’r Oriel!