Gwyl Lenyddol a Chomig
Athrofa’r Celfyddydau Cyfoes, Llundain,
5 Tachwedd 2007
Digwyddiad lansio yn ystod Comica, gwyl flynyddol o lenyddiaeth a chelf gomic ryngwladol wedi ei greu gan y newyddiadurwr llawrydd, y darlithydd a’r darlledwr Paul Gravett.
Rhaglen lawn ar fin ei gyhoeddi - gwyliwch allan amdano.
Parti lansio newydd! gwell! mwy! yn nwylo John Hegley! – cabaret o theatr, celf, cerddoriaeth a chomedi – ar gyfer Ein Llyfr Comics, casgliad o waith darluniadol newydd gan gomedïwyr, beirdd, awduron ac artistiaid sy’n ffoli ar gartwnau.
Bydd y noson yn troi o gwmpas clipiau wedi eu codi o gasgliad ffilmiau di-sain y cartwnydd cwlt o’r Efrog Newydd Mark Newgarden. Mae casgliad Mark o ffiliau 16mm yn un rhyfeddol, ac yn amrywio o ffilmiau cartref di-enw ac anesboniadwy i argraffiadau prin o animeiddiadau cynnar (yn cynnwys ‘Trained Baby Elephant’ gan y gwneuthurwr ffilmiau Spanuth, ‘How Not To Undress’, a ‘Chip the Wooden Man in the Magic Wand’). Bydd yr artistiaid fydd yn rhoi traciau sain newydd i’r ffilmiau, yn fyw ar y noson, yn cynnwys y Brodyr Bohman a Richard Thomas. Mi fydd y cyfansoddwr Paul Clark o’r Clod Ensemble gennym ni efo’r pianydd John Paul Gandy. Bydd y Dolly Mixtures yno hefyd yn dawnsio i biano, acordion, iwcelele a glocenspiel Martin White. Mi fydd y saer geiriau Suzanne Andrade (o cabaret 1927) yn llefaru yno, yr artist Brian Dewan yn cyflwyno ei ffilm ‘Deuteronomy’ – sioe sleidiau gydag effeithiau sain a gwerth addysgol pur sylweddol – a bydd Simon Munnery yno hefyd ac wedi sefydlu cysylltiad lloeren efo fo’i hun.
Bydd y perfformwyr ar gael cyn y digwyddiad ac yn ystod yr egwyl i lofnodi copïau o’n Llyfr Comics yn Siop Lyfrau’r ICA.