Artistiaid

Adloniant byw a chelfyddydol gomic yn dod Llangollen?

Mark Newgarden
(UDA) – Yr hyn a gollwyd ac a gafwyd unwaith eto

Newgarden Elephant Detholiad o gartwnau clasurol a phrin o gasgliad yr artist-ddigrifwr Americanaidd Mark Newgarden wedi eu cyflwyno i draciau sain newydd sbon. Y traciau wedi eu creu gan y perfformwyr ac artistiaid cerdd a ‘foley’ TRAW, Suzanne Andrade, Kevin Reid, Brian Dewan, John Lawrence a’r Berberian Sound Studio.

Brian Dewan
(UDA) – i-Strip

dewan.jpg Cyflwyniad lle mae Dewan yn defnyddio taflunydd o’r 50au a ffilm wedi ei baentio â llaw i ddarlunio testunau anghymarol, a hynny mewn ffordd ddifyr a hynod, digrif mewn ffordd ryfedd ac ychydig yn swreal. Mae Dewan yn glasur Americanaidd ac yn un o ffefrynnau’r llywiwr chwaeth diweddar John Peel.

“…a multi-talented modern-day Renaissance man. With a veritable cornucopia of wit, wisdom, talent, and general likability..” – BBC, H2G2



Bedwyr Williams
(Cymru) – Sgwrs am Gwinsi

williams.jpg Artist gweledol gorau Cymru, perfformiwr miniog ei arabedd, yn cyflwyno Sgwrs am Gwinsi – perfformiad sy’n cynnwys goleuadau strôb.

Bu Bedwyr yn cynrychioli Cymru ym Miennale Fenis 2005 ac fe brynwyd ei waith diweddar ‘Cerddwch filltir yn f’esgidiau i’ ar gyfer casgliad Saatchi.

“Hillariousy deadpan and satisfying.” – Art Review



Steven Brower
(UDA) – Memorial Service For Conrad Carpenter, Handyman, Astronaut

brower.jpg Yn dilyn marwolaeth drist ddiweddar hunan arall Steven, yr astronot achlysurol Conrad Carpenter, dyma i chi wahoddiad i’w wasanaeth cynhebrwng fydd yn cynnwys golygfeydd fideo byw o fal_n heliwm yn esgyn i’r gofod.

“Of all the contemporary work that extends neo-conceptual art into the realm of architecture… Steven Brower’s may well be the cutest.” – Artforum



John Hegley
(Lloegr)

hegley.jpg Dyma’ch cyfle i brofi barddoniaeth standyp amgen hynod o ddifyr John Hegley, y guerilla geiriau, y bardd hynod, y perfformiwr cerdd a’r cyfrannwr cyson i Radio 4.

“One of the funniest men alive” – New Statesman

“Comedy’s poet laureate” – Independent



Suzanne Andrade
(Lloegr)

andrade.jpgStraeon swreal, llawn o hiwmor du, wedi eu hadrodd gan Suzanne i gyfeiliant animeiddiadau’r un mor swreal sy’n atgoffa dyn o fyd ffilmiau di-sain. Sioe gyfareddol, hynod afaelgar a thra-chywir ei chyflwyniad.

“It is rare to see poetry performed alongside strippers and cabaret acts. Suzanne Andrade, however, is a peculiar poet… whether she’s writing about little girl brownies who turn into demonic goat-men led by Tony Hart, or a Scottish family who deep-fry everything.” – Independent on Sunday

“…racked up five awards in a succession of [Edinburgh] Festival triumphs this week.” – The Scotsman ****

“You can’t fail to be seduced.” – metro ****

“Now this is what Edinburgh should be all about.” – The Guardian ****


Victor Mount
(Lloegr)

mount.jpg Mae persona Victor Mount yn gyfuniad o raconteur bydol-ddoeth a gwesteiwr fymryn yn niwrotig.

Yn ei gyflwyniad bydd Mount - sy’n dioddef o iselder Philip Larkin a dylanwad hiwmor John Betjeman - yn arddangos ei sgiliau perfformio a cherddorol (neu eu diffyg nhw) gyda chaneuon gitâr a phenillion am gelf.

Traw
(Cymru)

traw.jpg Perfformiad lle bydd yr artistiaid sain Cymreig Richard Llewelyn, Owen Martell a Simon Proffitt yn prosesu recordiadau o wrthrychau ac amgylcheddau digerddoriaeth. Yn ddiweddar fe gyflwynon nhw berfformiad byw byrfyfyr gyda gwrthrychau personol y gynulleidfa megis moron, peintiau o gwrw, dannedd gosod, ambell i ambarél a gweill bwyta Tsieineaidd.

Rachel Pantechnicon
(Lloegr)

rachel.jpg Mae Rachel Pantechnicon, i bob golwg, yn blentyn serch i Eddie Izzard a Pham Ayres.

Rachel yn fardd perfformiad anarferol sydd wedi ennill gwobrau am ei gwaith. Mae hi’n wreiddiol iawn ac yn wir fe ellir ei disgrifio hi fel ‘diva’. Gydag obsesiwn am gathod. A pheidiwch ag anghofio’r silffoedd tylwyth teg.

“I was weeing myself” – Sue Perkins,The Old Vic



Nathan Penlington
(Cymru/Lloegr)

penlington.jpgFe wariodd y Scowsar Cymreig Nathan Penlington ei arddegau cynnar fel galwr bingo rhan amser a bachgen-gonsuriwr mewn tref glan môr yng Nghymru.

Mae ei gabaret llenyddol unigryw yn cyfuno consurio, comedi a’r gynulleidfa i greu sioe ddeallus, hawdd ei ddeall a difyr sydd wedi ennill gwobrau.

“Sensation” – The Guardian

“England’s brightest stand-up poet” – NewYorkCool.com



Brian Nylon
(Cymru)

nylon.jpg Mae DJ’r lle, Brian Nylon - dyn nad oes neb bron wedi clywed amdano yn Doncaster, ei dref enedigol, ac eto’r unig un byw erioed i ymddangos ar un o stampiau post Rwmania - yn ddirgelwch piwis anghyfforddus mewn siwt melfed. Ei hoff wallt gosod ydi’r ‘Ray Conniff’.

“I danced until I fell over” - Mrs. J, Aberdare



Marc Rees
(Cymru) – Dyddiaduron y ‘Marcwis a ddawnsiai’: astudiaeth mewn adfeiliant - rhan 1

rees.jpg Mae Marc Rees yn un o brif artistiaid dawns Cymru ac yn adnabyddus am ei berfformiadau digrif a lliwgar, eithafol ar brydiau. Wedi ei ddilledu’n addas o anghyffredin, mae Marc yn talu gwrogaeth i 5ed Marcwis Môn ar ffurf portread personol a dadlennol sy’n bromenâd o ymhonni rhodresgar.

“Marc Rees is one of the most interesting and talented creative artists working in the UK today” – Theatre in Wales



Rhian Edwards
(Cymru)

edwards.jpg Mae Rhian Edwards, sydd wedi derbyn gwobrau am ei gwaith fel bardd, cerddor ac ysgrifenwraig caneuon, wedi creu ffurf iaith fynegiannol sydd â dull rhythmig a thelynegol unigryw, ffurf sydd wedi ei gwneud hi’n un o leisiau mwyaf ysgogol ac arbennig byd barddoniaeth.

“Astounding Welsh performance poet with performances that get you in the emotional gut.” – The Verb – Radio 3



John Lawrence
(Cymru)

lawrence.jpg Yn gerddor Cymreig ac yn un o aelodau gwreiddiol Gorky’s Zygotic Mynci, mae John bellach yn artist solo sydd wedi datblygu cryn enw iddo’i hun gyda’i waith diweddar dan yr enw Infinity Chimps.

Kevin Reid & Jason Nelson
(Yr Alban) – Life in Fife life skills

nelson.jpg Yn breuddwydio am fyw mewn pentref a fu’n bentref glofaol, yn nwyrain yr Alban? Dyma’ch cyfle i wireddu’ch breuddwyd!

Mae’r cenhadon diwylliannol o Fife, Kevin Reid a Jason Nelson, yn cyflwyno gweithdy sy’n dysgu sgiliau bywyd ‘Life in Fife’. Cyfle i feithrin yr hyn fydd ei angen arnoch chi i gysylltu’n agos ac yn ystyrlon gyda phobl y fro.

Simon Munnery
(Lloegr)

munnery.jpgDaeth yr awdur comedi a digrifwr standyp arbrofol Simon Munnery (o “Alan Parker: Urban Warrior” a “The League Against Tedium”) i sylw byd hiwmor prif-lif Lloegr drwy ei sioe ar Radio 1 a’i gyfres teledu “Attention Scum!” ar BBC2. Bydd yn aml yn gwisgo het wedi ei lunio o degell.

“One of the most original and talented comics in the country.” – The Observer

“A sharply intelligent, almost satirical act… a brilliant comic.” – The Daily Telegraph



The Berberian Sound Studio Group
The Bohman Brothers (Lloegr), Peter Strickland (Hwngari), Richard Thomas (Cymru)

berber.jpg Cyfle i weld artistiaid ffilm-nodwedd profiadol y Berberian Sound Studio Group yn osgoi pob peth digidol ac yn cyfuno seiniau eu llysiau, eu brwshys esgid, eu machetes a phob math o froc hynafol er mwyn dod ag un o ffilmiau Mark Newgarden yn fyw.

“…in the traditions of the Bonzo Dog Doo-Dah Band, the Bohman Brothers kitchen-sink realism laughs at the grand claims of lofty art. They will show you fear in a sponge from a drainer.” - Ben Watson, The Wire Magazine

“The new single by the Bohman Brothers…is one of the best sound poetry jukebox records since Henri Chopin stopped cutting them.” - Byron Coley, The Wire Magazine