Efallai bod Y Llyfr Comics yn gyhoeddiad gwych sy’n dod â dros hanner cant o artistiaid gweledol ac awduron cyfoes at ei gilydd i greu gwaith newydd seiliedig ar ddiwyg y cartŵn a’r comic…
Ond, dim ond y cychwyn ydi hynny! Y man cychwyn i gyfres o ddigwyddiadau byw yng Nghymru, yr Alban a Lloegr - digwyddiadau fydd yn lansio’r llyfr ac yn rhoi oriau o adloniant gorwych artistig a chomig!
Mae’r gyfres yn agor yng ngogledd Cymru gyda jambori a ffug-ŵyl lenyddol ym Mhafiliwn Rhyngwladol Llangollen. Bydd yna berfformiadau wedi eu comisiynu, darlleniadau, darlithoedd ac arddangosiadau’n cynnwys celf fyw, ffilmiau, cerddoriaeth, dawns, celf weledol, llenyddiaeth a chomedi.
A hefyd! Mae gennym ni’r arddangosfa gelf gyntaf erioed o Gymru i’w chynnal yn rhithfyd Second Life
Er mai yng Nghymru fydd y perfformiad swyddogol cyntaf, mae’r ail un wedi digwydd cyn y cyntaf (!) gyda lansiad estynedig yn yr Alban fel rhan o Ŵyl Ymylol Caeredin (sydd newydd fod).
Mae’r prosiect yn gorffen gyda lansiad arall yn Lloegr, yn yr ICA yn Llundain.
Cysylltu
post@thecomicbook.org