Mae ein Llyfr Comics newydd yn gasgliad mawr tew a blasus o gomisiynau newydd sbon seiliedig ar fformat y comic a’r stribed cartwn.
Comisiynwyd dros hanner cant o artistiaid ac awduron (yn cynnwys rhai sy’n gweithio yn y fformat comics yn rheolaidd a rhai eraill sy’n hollol ddieithr i’r grefft). Mae’r gweithiau’n ganlyniad i gydweithio o’r newydd rhwng yr artistiaid a’r awduron - o ddarluniau sengl gyda chapsiynau i straeon cyflawn, a rhai dyfeisiadau hollol newydd.
Rydym ni hyd yn oed wedi comisiynu trugareddau dal sylw a nodlyfrau arbennig!
Mae’r Llyfr Comics wedi ei gynhyrchu a’i ddosbarthu o gwmpas y byd mewn cydweithrediad â Revolver, y cyhoeddwr llyfrau celf Almaenig uchel ei barch.
Ond mae mwy na llyfr i’w gael! Esgus ydi hwnnw i gynnal cyfres wych o ddigwyddiadau anhygoel drwy Gymru, yr Alban, Lloegr a Second Life. EVENTS.
Cysylltwch â Ni
Os ydych chi am gysylltu â ni am unrhyw reswm, i longyfarch, i feirniadu, neu i ddweud helo (mae hynny’n neis), yna taniwch e-bost i gyfeiriad post@thecomicbook.org. Mi fyddwn ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi! Mi fyddwn ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi!