Mae oriel newydd sbon ar fin cael ei gwblhau. Mae cwmni Movix Media’n adeiladu oriel-gelf-yn-yr-awyr newydd sbon yn arbennig ar gyfer ein harddangosfa Llyfr Comics yn rhithfyd Second Life.
Ydi, mae hi’n hofran yn yr awyr! Ac mae hi’n cynnig bar, lle i ddawnsio a reid mewn balŵn!
Mae Movix Media’n ymgynghorwyr Second Life ac yn arbenigwyr ar symud tŷ. Os ydach chi isio lle i fyw yn y byd newydd ffyniannus yma, cymrwch air efo Movix Media - y bobl gyfeillgar.
Dydd Mercher, Medi 12th, 2007 : 8:53 am | Events