Nos Sadwrn yma, o 6-9 yr hwyr, mae arddangosfa o waith celf y Llyfr Comics yn agor yn rhithfyd Second Life. Dyma’r arddangosfa gyntaf erioed o Gymru i gael ei lansio yn Second Life, ac mae’n dod gyda pherfformiad byw gan y DJ Brian Nylon a reid balŵn drwy’r llyfr ei hun.
Peidiwch â bod yn swil os nad ydach chi wedi mentro i rithfyd amgen Second Life o’r blaen. Mae o i gyd am ddim ac yn ddigon hawdd ei ddeall. I gael mwy o fanylion, cymrwch olwg ar adran Second Life y wefan yma.
Dydd Mercher, Medi 12th, 2007 : 8:46 am | Events